View across Llanidloes, a market town on the River Severn in Powys, Mid Wales

Neuadd y Dref · Great Oak Street · Llanidloes

Croeso i Gyngor Tref Llanidloes

Mae pwerau’r Cyngor Tref yn gyfyngedig, ond bydd yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd o bwys i’r dref a’i thrigolion.

Mae Cyngor Tref Llanidloes yn cyfarfod am 7pm yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Dref, Stryd y Dderwen Fawr, Llanidloes ar bedwerydd dydd Llun y mis, heblaw mis Awst.

Dogfennau’r Cyngor

Amdanon Ni

Amdanon Ni - Ble a phryd rydyn ni’n cwrdd

Llanidloes Town Hall, Great Oak Street
Neuadd y Dref, Great Oak Street Llanidloes

Mae Cyngor Tref Llanidloes wedi'i leoli yn Neuadd y Dref, adeilad rhestredig a roddwyd i'r dref gan deulu Davies Llandinam. Pwrpas gwreiddiol y man hwn oedd cynnig llety dirwestol i ymwelwyr, yn lle'r sefydliadau llawn cwrw a gwirodydd mewn mannau eraill yn y dref.

Roedd hefyd yn cynnig ystafell breifat lle gallai ffermwyr daro eu bargeinion ar ddiwrnod marchnad mewn sobrwydd llwyr heb gael eu denu gan demtasiynau peryglus y dafarn.

Ydw i’n gallu mynychu cyfarfodydd y cyngor?

Mae’r cyfarfodydd yn agored i bawb eu mynychu, boed yn y cnawd neu ar-lein.

Inside the Council Chamber, Town Hall

Eich Pryderon Chi yw ein Pryderon Ni

Mae pwerau’r Cyngor Tref yn gyfyngedig, ond bydd yn ceisio mynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd o bwys i’r dref a’i thrigolion.

Eiddo a Gwasanaethau

Yr hyn y mae'r Cyngor yn gofalu amdano

Neuadd y Dref

Mae Neuadd y Dref ym mherchnogaeth Cyngor y Dref ac ar hyn o bryd mae'n cynnwys swyddfeydd ynghyd â rhai ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd cymunedol. I logi ystafelloedd, cysylltwch â Chlerc y Dref.

Contact the Clerk to hire a room →

Porth Hafren

Ardal o barcdir ychydig oddi ar Stryd y Bont Hir, syn rhedeg ar hyd afon Hafren. Mae’n ardal ddelfrydol am bicnic neu i fwydo'r hwyaid.

Parc Chwarae Rhodfa Fictoria

Parc chwarae cymunedol gyda chyfleusterau toiled.

Maes Hamdden

Ardal gymunedol sy'n cynnwys y clybiau bowlio, criced, tenis a chroquet. Mae maes chwarae ar wahân i blant ar yr un safle hefyd.

Parc Sglefrio a Pharc Glan yr Afon

Adeiladwyd a chyfarparwyd y Parc Sglefrio yn 2005 ac mae'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan sglefrwyr a beicwyr BMX. Mae llwybr glan yr afon yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, yn enwedig gan gerddwyr cŵn.

Hen Neuadd y Farchnad

Adeilad Rhestredig Gradd I sy'n eiddo i Gyngor y Dref ac a fu gynt yn brif atyniad twristaidd. Mae ar hyn o bryd yn destun rhaglen adnewyddu gan Gyngor Sir Powys.

Gardd y Mileniwm, Heol Llangurig

Gardd brydferth sy'n eiddo i Gyngor y Dref ac sy’n cael ei rheoli gan grŵp o wirfoddolwyr brwdfrydig. Lle tawel, a ddefnyddir yn helaeth gan bobl leol ac ymwelwyr, i orffwys am ychydig.

Mynwent Dolhafren

Yn eiddo i Gyngor y Dref ac a arferai gael ei rheoli gan gydbwyllgor, mae'r fynwent i’w gweld ar Heol Trefeglwys, Llanidloes. O 1 Ebrill 2024 ymlaen, daeth Cyngor y Dref yn gyfrifol am reoli’r fynwent ac am ei gweithrediadau ariannol.

Coedwigoedd Allt Goch

11 hectar o goedwig hynafol a adferwyd ar gyrion Llanidloes.

Toiledau cyhoeddus y Gro

Stryd Smithfield – toiledau cyhoeddus o dan brydles gan Gyngor Sir Powys.

Canolfan Ieuenctid Llanidloes

Mount Lane. Sicrhawyd prydles am 25 mlynedd gan Gyngor Sir Powys yn 2025 i roi bywyd newydd i’r adeilad.

Ymweld â Llanidloes

Yn bwriadu ymweld neu’n newydd i’r dref?

Ar wefan llanidloes.com, fe welwch leoedd i aros, bwyta, yfed, siopa, a phethau i’w gwneud yn Llanidloes a’r ardal gyfagos.

Ymweld â Llanidloes

Dewch draw, neu cysylltwch â ni i rannu eich pryderon

Council Chamber, Town Hall, Great Oak Street - 7.00yh, pedwerydd dydd Llun y mis (ac eithrio mis Awst)